Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Hydref 2018
Amser:
13.17 -
16.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5034
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Suzy Davies AC, Comisiynydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Meaden, Public Services Ombudsman for Wales Office |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru Matthew Mortlock Ann-Marie Harkin |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC. Ni chafwyd dirprwyon.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn gofyn am ddiweddariad pellach am weithredu'r argymhellion yn ystod gwanwyn 2019.
4.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a chytunwyd i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y tymor hwn.
5.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Suzy Davies AC, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y Gyllideb a Llywodraethu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2017-18.
5.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda barn Comisiwn y Cynulliad unwaith y bydd wedi ystyried y papur yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd ynghylch Dangosyddion Perfformiad Allweddol y contract newydd ar gyfer caffael.
6.1 Craffodd yr Aelodau ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Katrin Shaw, Cyfarwyddwr Polisi, Cyfreithiol a Llywodraethu a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.